Neidio i'r prif gynnwy

Dos Atgyfnerthu Covid-19 - Gwanwyn 2024

Mae ein Imbiwlans yn ôl ar y ffordd!

Mae ein Imbiwlans yn ôl ar y ffordd yr wythnos hon gan gynnig brechiadau atgyfnerthu'r gwanwyn i'r rhai sy'n gymwys - gweler isod am cymhwyster.

Dyma’r amserlen:

Dydd Mawrth 14eg Mai – Neuadd y Dref Abertawe, Heol Sain Helen, Abertawe, SA1 4PE. 9:30yb – 4:30yh.

Dydd Mercher 15fed Mai – Canolfan Hamdden Pontardawe, Parc Ynysderw, Pontardawe, Abertawe, SA8 4EG. 9:30yb – 4:30yh.

Dydd Iau 16eg Mai – Sgwâr yr Angel (ger Morrisons), Tref Castell-nedd, SA11 1DH. 9:30yb – 4:30yh.

Nid oes angen archebu lle, dim ond galw heibio!


Y gwanwyn hwn rydym yn cynnig dos atgyfnerthu ychwanegol o’r brechiad Covid-19 i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Mae’r dos atgyfnerthu ychwanegol wedi’i argymell gan y Cydbwyllgor annibynnol ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI), sy’n cynghori llywodraethau’r DU, ac wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

Mae'n cael ei gynnig fel rhagofal fel y gall y rhai sydd fwyaf mewn perygl o fynd yn ddifrifol wael os ydynt yn dal coronafirws gadw lefel uchel o imiwnedd.

Pwy sy'n ei gael?

  • Oedolion 75 oed a throsodd
  • Preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn
  • Unigolion 6 mis oed a throsodd sydd ag imiwnedd gwan

Sut a phryd y byddaf yn clywed?

Anfonir llythyr neu neges destun atoch gan y Tîm Brechu Covid gydag apwyntiad mewn meddygfa neu fferyllfa gymunedol leol.

Mae'r apwyntiad sy'n cael ei gynnig ar gyfer dos atgyfnerthu Covid-19 gwanwyn 2024.

Efallai y byddwch yn clywed gennym o  19 Mawrth ymlaen, gan fod apwyntiadau'n dechrau ddydd Mawrth Ebrill.

Ond peidiwch â phoeni os na fyddwch chi'n clywed gennym ar unwaith, bydd apwyntiadau'n cael eu rhoi wrth i ni weithio drwy'r grwpiau cymhwysedd. Byddwn yn cynnig y dos atgyfnerthu'r gwanwyn tan fis Mehefin.

Nid oes angen cysylltu â'ch meddygfa na'r bwrdd iechyd. Os ydych yn gymwys, anfonir apwyntiad atoch.

Sut gallaf ganslo neu newid fy apwyntiad?

Os na allwch wneud eich apwyntiad, cyfeiriwch at eich llythyr gwahoddiad a chysylltwch â’r Tîm Archebu Covid ar 01639 862323.

Bydd rhagor o wybodaeth am raglen dos atgyfnerthu Covid-19 gwanwyn 2024 yn cael ei hychwanegu at y dudalen hon pan fydd ar gael.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.